Lleoliad:
Hybrid - Ystafell Bwyllgora 4 Tŷ Hywel a
fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 21 Medi 2022
Amser:
09.11 -
12.24
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12957
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jayne Bryant AS (Cadeirydd) James Evans AS Laura Anne Jones AS Ken Skates AS Buffy Williams AS Heledd Fychan AS Sioned Williams AS |
Tystion: |
Ian Morgan, CBAC Elaine Carlile, CBAC David Jones, CBAC Philip Blaker, Cymwysterau Cymru Jo Richards, Cymwysterau Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Tom Lewis-White (Ail Glerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Jennifer Cottle (Cynghorydd Cyfreithiol) Michael Dauncey (Ymchwilydd) Sian Hughes (Ymchwilydd) Sian Thomas (Ymchwilydd) |
1 Absenoldeb disgyblion - Trafod yr adroddiad drafft
1.1 Bu'r
Pwyllgor yn ystyried yr adroddiad drafft. Byddai'n cael ei ddiwygio
i adlewyrchu sylwadau'r Aelodau a'i ystyried ymhellach yn y
cyfarfod nesaf.
2 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
2.2 Nododd y
Cadeirydd y byddai Heledd Fychan AS yn dirprwyo ar ran Sioned
Williams AS ar gyfer eitemau 1,6 a 7.
3 Cyfres arholiadau haf 2022 - sesiwn dystiolaeth
3.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan CBAC a Chymwysterau Cymru.
4 Papurau i'w nodi
4.1 Cafodd y
papurau eu nodi.
5 Cyfres arholiadau'r Haf 2022 - trafod y dystiolaeth
5.1 Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a glywodd yn y sesiwn graffu. Cytunodd i
ysgrifennu er mwyn cael rhagor o wybodaeth am rai o'r materion a
godwyd.
6 Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Ysgolion
6.1 Bu’r Aelodau’n ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a chytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a'r Gymraeg i gael eglurhad ar rai meysydd. At hynny, cytunodd i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad.
7 Plant sy'n derbyn gofal a phobl sy'n gadael gofal - trafodaeth bellach ynghylch cwmpas a dull gweithredu
7.1 Cytunodd y
Pwyllgor ar y cylch gorchwyl a dull y Pwyllgor o gynnal yr
ymchwiliad. Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog
Gwasanaethau Cymdeithasol i gael rhagor o wybodaeth.
8 Absenoldeb disgyblion - Trafod yr adroddiad drafft